Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 4 Tachwedd 2021
Amser:
09.00 -
15.21
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://seneddhttp://www.senedd.tv/Meeting/Archive/6990e503-28ac-48cd-aadc-f5087ee34f14?autostart=True.tv/cy/12466
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Siân Gwenllian AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Buffy Williams AS Sioned Williams AS (yn lle Siân Gwenllian AS) |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Catherine McKeag (Swyddog) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Božo Lugonja (Ymchwilydd) Phil Boshier (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.
1.3 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Nododd y Cadeirydd y byddai Sioned Williams AS yn dirprwyo ar ran Siân Gwenllian AS ar gyfer eitemau 1-8.
1.4 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Sioned Williams AS fod ei gŵr yn cael ei gyflogi gan Brifysgol Abertawe.
2 Papurau i'w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4 Trafod y dull o ymdrin â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2022 - 2023
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dull ar gyfer craffu ar y gyllideb ddrafft.
4.2 Cytunodd yr Aelodau ar y canlynol:
- ysgrifennu at y Gweinidogion perthnasol yn gofyn am wybodaeth cyn y sesiynau tystiolaeth lafar; ac
- yn lle trefniant ffurfiol ar gyfer gweithio ar y cyd gyda'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, byddai'n rhannu unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig berthnasol â'r Pwyllgor.
5 Cyflwyniad i Ddeddfwriaeth
5.1 Cafodd yr
Aelodau gyflwyniad gan y Clerc ar y broses ddeddfwriaethol.
6 Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - papur briffio gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)
6.1 Cafodd yr
Aelodau sesiwn friffio gan Brif Weithredwr a Dirprwy Brif
Weithredwr CCAUC.
7 Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - papur briffio technegol gan Lywodraeth Cymru
7.1 Cafodd y
Pwyllgor sesiwn friffio dechnegol ar y Bil gan swyddogion
Llywodraeth Cymru.
8 Trafod y dull o ymdrin â'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)
8.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o ystyried y Bil.
8.2 Cytunodd yr Aelodau ar y canlynol:
- y cylch gorchwyl drafft;
- ei ddull o graffu yng Nghyfnod 1;
- yn amodol ar ychydig o ychwanegiadau, rhestr y rhanddeiliaid ar gyfer tystiolaeth ysgrifenedig;
- y tystion i’w gwahodd i roi tystiolaeth lafar; a
- chyfnod
ymgynghori o chwe wythnos.
9 Sesiwn hyfforddi’r pwyllgor ar ddiogelu, wedi'i hwyluso gan yr NSPCC (rhan 2)
9.1 Cymerodd yr Aelodau ran mewn sesiwn hyfforddi ar ddiogelu.